Newyddion Corisma

Hydref 2011

Erbyn hyn, rydym wedi ail ddechrau cwrdd ar ôl saib dros yr haf a phawb yn awyddus iawn i ail-gydio yn y canu o dan gyfarwyddyd ein harweinyddes fedrus, Carys Lewis.

Mae’r côr wedi denu nifer o aelodau newydd i’n plith o ardaloedd mor bell â Llandeilo i’r dwyrain ac Aberaeron i’r gorllewin. 

Swyddogion newydd y Côr am eleni yw: Cadeirydd - Lena Daniels; Ysgrifenyddes - Haf Hughes; Trysorydd - Luned Thomas.

Yn ddiweddar, bu criw o aelodau’r Côr yn diddanu ymwelwyr o wledydd Ewrop yng ngwesty’r Grannell.  Roedd yr ymwelwyr yn ymweld ag Ysgol Ffynnonbedr ac Ysgol y Ddwylan, Castell Newydd Emlyn. Rhan o gywaith Comeniws oedd yr achlysur, sef cynllun lle mae staff o wahanol ysgolion o’r Eidal, Sbaen, Iwerddon, Awstria, Ffrainc a Chymru’n mynd ar ymweliadau i ysgolion ei gilydd er mwyn dysgu am ddulliau dysgu a diwylliant y gwledydd eraill.  Mae disgyblion yr ysgolion yn astudio’r gwahanol wledydd ac yn cysylltu â’i gilydd drwy’r post, e-bost a skype.

Ymwelwyr Tramor

Cyflwynodd y Côr nifer o ganeuon traddodiadol Cymraeg ac alawon cyfoes iddynt.  Mwynhawyd y canu’n fawr iawn ac roedd pawb yn gytûn y cafwyd noson o adloniant gwerth chweil. Arweiniwyd y noson gan Lena Daniel yn hwylus dros ben yn ei ffordd ddihafal ei hun a chyfeilydd  y noson oedd arbeniwraig arall o’n plith sef Sally Saunders.

Gwen Davies





Community Web Kit provided free by BT