Taith a drefnwyd gan Lena Daniel. Dyma'r merched yn Stiwdio Ddawns Sally Saunders. Bu’n gyfnod digon prysur i Gôr Corisma yn ddiweddar. Wedi ymarfer yn wythnosol ar gyfer ein cyngerdd yn Nhalgarreg cyn y gwyliau, fel gwobr am y canu da, fe gafwyd Trip Dirgel wedi ei drefnu gan Lena. Fe ddechreuodd y trip o ganol dre, a wedi dilyn cyfarwyddaidau mewn ffyrdd penillion mi wnaeth yr aelodau ddarganfod eu hunain yn stiwdio ddawns un o’n haelodau sef Sally Saunders. Cafwyd awr bleserus (!) yn dawnsio o flaen sawl drych ENFAWR i gerddoriaeth Sbaeneg ac Americanaidd a chwifio rhyw bompoms lliwgar o gwmpas- tipyn o ddwli a chwerthin di-stop ar ben ein gilydd yn symud go chwith a cholli anadl a chochi a baglu. Wedyn draw i dŷ ein Cadeirydd yn Llysbarcud, Cellan i gael Pims ar y lawnt ac ychydig o gyngor wrth Emma Panacea ar sut i edrych yn bert drwy ddefnyddio colur effeithiol. Diolch i Carys ein harweinyddes a Rhian ein Swyddog Nawdd am “wirfoddoli” i fod yn fodelau ! Ymlaen â ni ar garlam wedyn i Benlanlas yn Llanfarian tu allan i Aberystwyth i gael swper blasus iawn a golygfeydd godidog o gwmpas y cwrs golff, a wedyn galw heibio nôl yng Ngwesty’r Plu Aberaeron i gael clonc a chyfle i ddadansoddi helynt y dydd- diwrnod i’w gofio yn wir!